Dyddiad yr Adroddiad

06/21/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202300817

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr W nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi mynd i’r afael â’i holl bryderon ynghylch cydlynu ei ofal a’i driniaeth. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i gynnal cyfarfod ag ef i drafod ei bryderon, ond nad oedd wedi cael dyddiad.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod gan y Bwrdd Iechyd o ran trefnu cyfarfod a bod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mr W. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i wneud trefniadau i gynnal cyfarfod â Mr W o fewn 4 wythnos.