Dyddiad yr Adroddiad

05/05/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200328

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd Mrs D nad oedd y colesystectomi laparosgopig (tynnu coden y bustl) a gafodd ar 13 Medi 2021 wedi’i gynnal i safon briodol. Roedd hyn yn golygu bod angen llawdriniaeth bellach ar Mrs D ar ddyddiad diweddarach; fodd bynnag, fe’i hysbyswyd bod y llawdriniaeth wedi mynd yn iawn. Cwynodd Mrs D hefyd bod ei chais am gymorth ychwanegol gan y Llawfeddyg Cyntaf yn dilyn yr ail lawdriniaeth wedi’i anwybyddu.

Yn dilyn hyn penderfynodd Mrs D i fynd ar drywydd Rhwymedi Cyfreithiol Amgen ac felly dygodd yr Ombwdsmon ei chwyn i ben. Gan na wnaed unrhyw ganfyddiadau, ni wnaeth yr Ombwdsmon unrhyw argymhellion ynghylch y gŵyn hon.