Dyddiad yr Adroddiad

05/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202208513

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss L, er iddi godi sawl cwyn am ei chamddiagnosis, nad oedd wedi derbyn ymateb ffurfiol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro..

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cysylltu â Miss L dros y ffôn a thrwy’r post, nid oedd wedi ymateb yn ffurfiol i’w phryderon yn unol â’u gweithdrefn cwynion statudol. Dywedodd bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss L.

Fel dewis amgen i ymchwiliad, gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd o ddarparu ymddiheuriad i Miss L am yr oedi wrth ymateb a chyhoeddi ymateb ffurfiol o fewn 6 wythnos.