Dyddiad yr Adroddiad

04/13/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202207970

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am ofal a thriniaeth a roddwyd iddo pan gafodd ei dderbyn i’r Adran Achosion Brys ym mis Medi 2022.

Yn ôl yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb boddhaol i’r rhan fwyaf o’r pryderon a godwyd gan Mr A, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb boddhaol o ddau fater a godwyd.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn datrys cwyn Mr A, cytunodd i ddarparu ymateb ysgrifenedig pellach iddo, gan roi sylw penodol i’r ddau fater na chafodd sylw, o fewn 20 diwrnod gwaith.