Dyddiad yr Adroddiad

03/31/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202107586

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms Z am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro rhwng 1 Gorffennaf a 5 Gorffennaf 2021. Dywedodd Ms Z fod y Bwrdd Iechyd wedi methu cynnal ei llawdriniaeth apendectomi o fewn amserlen briodol. Ar ôl y llawdriniaeth, dywedodd Ms H nad oedd yn cael ei monitro’n briodol ac na chymerwyd camau prydlon i fynd i’r afael â’i thymheredd uwch a chanlyniadau ei phrofion gwaed. Yn olaf, dywedodd Ms Z nad oedd wedi cael digon o wybodaeth am gael ei rhyddhau a threfniadau dilynol.

Canfu’r Ombwdsmon fod Ms Z wedi cael ei llawdriniaeth apendectomi o fewn amserlen briodol yn seiliedig ar ei hamgylchiadau clinigol. Yn dilyn ei llawdriniaeth, cafodd Ms Z ei monitro, a chymerwyd camau priodol yng nghyswllt ei chanlyniadau gwaed a phryd y gwnaeth ei thymheredd godi. Gwelwyd hefyd bod cynlluniau rhyddhau priodol ar waith. Felly ni chafodd cwyn Ms Z ei chadarnhau.