Dyddiad yr Adroddiad

03/24/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202206829

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am nifer o faterion yn ymwneud â’r gofal a ddarparwyd i’w diweddar fam cyn ei marwolaeth, gan gynnwys a gafodd ei monitro’n ddigonol, a oedd ei harsylwadau/cyflwyniadau yn normal ac a oedd ei gofal wedi cael ei uwchgyfeirio’n briodol. Cwynodd hefyd fod cofnodion meddygol ei mam yn ymwneud â chael ei derbyn i’r ysbyty ar goll.

Yn absenoldeb y cofnodion meddygol perthnasol, nid oedd yr Ombwdsmon yn gallu ystyried digonolrwydd y gofal clinigol a ddarparwyd. Roedd hyn yn anghyfiawnder sylweddol i Miss A a’i theulu.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn datrys cwyn Miss A, cytunodd y byddai’n rhoi ymddiheuriad ystyrlon i Miss A o fewn 20 diwrnod gwaith am golli cofnodion, gwneud iawndal o £1,500 am y cyfle a gollwyd i ystyried ei chŵyn, parhau i chwilio am y cofnodion a chynnig eto i gyfarfod y teulu.