Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202205106

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs Y i’r Ombwdsmon (drwy eiriolwr ei Chyngor Iechyd Cymuned (CHC)), am ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i’w phryderon yn ymwneud â gofal ei gŵr (Mr Y) cyn iddo farw ar 21ain Gorffennaf 2021. Roedd ganddi hefyd bryderon am y cyfathrebu a ddigwyddodd o gwmpas y dirywiad yn ei gyflwr oherwydd symptomau methiant y galon a phryderon ynghylch sut y cafodd gyfarfod ei gynnal, oherwydd nad oedd staff allweddol yn bresennol.

Gofynnodd yr Ombwdsmon am gyngor gan gynghorydd clinigol proffesiynol gan farnu bod y gofal a dderbyniodd Mr Y cyn iddo farw’n rhesymol. Casglodd yr Ombwdsmon hefyd na ellid cyflawni dim byd mwy yng nghyswllt y diffygion cyfathrebu gan y Bwrdd Iechyd. Roedd wedi ymddiheuro am y rhain ac ystyriwyd bod hynny’n ddigonol. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd cynrychiolydd o’r hosbis (lle’r oedd Mr Y wedi’i drosglwyddo iddo cyn iddo farw) yn y cyfarfod rhwng Mrs Y a’r Bwrdd Iechyd. Nid oedd hynny wedi cynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ddatrys ei chŵyn yn llawn a digonol.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gysylltu â’r hosbis a’r CHC i drefnu ôl-gyfarfod â Mrs Y, gyda chynrychiolydd o’r hosbis yn bresennol, o fewn 20 diwrnod gwaith.