Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202107276

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs B fod y Bwrdd Iechyd, yn dilyn genedigaeth ei mab C, wedi colli cyfle i adnabod ei ‘weddillyn urachaidd’ (“UR” – cyflwr lle nad yw’r sianel sy’n ffurfio rhwng pledren y babi a llinyn y bogail yn ystod beichiogrwydd yn cau fel y dylai cyn yr enedigaeth).

Casglodd yr ymchwiliad fod y gofal a roddwyd i C ar ôl ei enedigaeth yn briodol ac nad oedd unrhyw fethiant i weithredu gan staff clinigol a fyddai wedi arwain at ddiagnosis cynt o’r UR. Felly ni dderbyniodd yr Ombwdsman y gŵyn.