Dyddiad yr Adroddiad

11/29/2022

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202204110

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am ei brofiad fel dyn trawsryweddol yn ceisio gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd. Cododd bryderon ynghylch ymweliad penodol i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys a phryderon mwy cyffredinol ynghylch sut sicrhaodd y Bwrdd Iechyd fod ei wasanaethau yn hygyrch i gleifion LGBTQ.

Teimlai Mr X y byddai cyfarfod i drafod ei brofiad gyda’r Bwrdd Iechyd yn ddefnyddiol i fynd i’r afael â’i bryderon. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gysylltu â Mr X o fewn 4 wythnos o ddyddiad y penderfyniad hwn, a thrafod cyfarfod ag ef i drafod:

  • y materion penodol a gododd am ei ofal
  • materion ehangach am y gwasanaeth a ddarperir i gleifion LGBTQ a amlygwyd gan ei brofiad.

Dywedodd y Bwrdd Iechyd y byddai aelod o’r tîm clinigol a’i Swyddog Cydraddoldebau yn bresennol yn y cyfarfod.