Dyddiad yr Adroddiad

09/05/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202301299

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B nad oedd ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) i’w chwyn am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar chwaer mor glir a thryloyw ag y gallai fod.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb i gŵyn Ms B ond nid oedd wedi dweud wrth Ms B y gallai fod wedi gofyn am ail farn os oedd hi’n anghytuno â’r penderfyniad i roi nodyn ‘Na cheisier dadebru cardio-anadlol’ ar waith ar gyfer ei chwaer.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn datrys cwyn Ms B, cytunodd y byddai, cyn pen 30 diwrnod gwaith, yn ysgrifennu at Ms B i gydnabod ei chwyn ac i ymddiheuro nad oedd wedi cael gwybod bod ganddi hawl i ofyn am ail farn ac er mwyn ymhelaethu ar y rhesymau pam y rhoddwyd nodyn Na cheisier dadebru cardio-anadlol ar waith. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac felly ni ymchwiliodd.