Dyddiad yr Adroddiad

08/29/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202202972

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs D fod oedi gyda diagnosis a thriniaeth ei diweddar ŵr, Mr D, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phractis Meddyg Teulu yn ardal y Bwrdd Iechyd. Cwynodd Mrs D fod cyfleoedd wedi’u colli i’r Bwrdd Iechyd roi diagnosis i Mr D o glefyd interstitaidd yr ysgyfaint (“ILD” – term cyffredinol sy’n cynnwys nifer o wahanol glefydau’r ysgyfaint) a ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint (“IPF” – math o glefyd yr ysgyfaint) rhwng 2015 a 2021. Cwynodd Mrs D hefyd fod Mr D wedi’i atgyfeirio at y Clinig Anadlol ym mis Ionawr 2021 ond na chafodd ei weld tan 28 Mai 2021. Cwynodd Mrs D fod Mr D wedi ymweld â’r Practis sawl gwaith dros y blynyddoedd cyn ei farwolaeth ac na chafodd ddiagnosis o glefyd interstitaidd yr ysgyfaint ar yr adegau yr aeth yno gyda’r symptomau perthnasol. Cwynodd Mrs D hefyd y dylai’r Practis fod wedi cymryd camau i gyflymu apwyntiad Mr D gyda’r Clinig Anadlol yn 2021 pan oedd ei symptomau’n gwaethygu.

Canfu’r Ombwdsmon fod cyfleoedd wedi’u colli i’r Bwrdd Iechyd roi diagnosis o glefyd interstitaidd yr ysgyfaint i Mr D a chafodd y gŵyn hon ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad fod yr amser a gymerwyd i weld Mr D yn y clinig Anadlol yn 2021 yn rhesymol ac ni chafodd y gŵyn hon ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y Practis yn rhesymol ac ni chafodd y cwynion hyn eu cadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs D a thalu £2000 iddi am y cyfleoedd a gollwyd i roi diagnosis i Mr D, yr ansicrwydd a achosodd hyn iddo, a’r ansicrwydd a’r trallod parhaus mae hyn wedi’i achosi i Mrs D. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i rannu’r adroddiad â chlinigwyr perthnasol, sicrhau bod yr holl glinigwyr perthnasol yn cael eu hatgoffa o’u dyletswydd i gymryd camau priodol pan nodir annormaleddau mewn delweddau, ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a nodwyd yn ymchwiliad y Bwrdd Iechyd ei hun i sicrhau yr ymdrinnir ag annormaleddau radiolegol cysylltiedig ac i’r Adran Llywodraethu Radioleg ystyried ychwanegu at gasgliadau adroddiadau os yw’r hyn a welir wedi newid ers y delweddau blaenorol.