Dyddiad yr Adroddiad

08/16/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202107049

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs N am agweddau ar ofal ei mam, Mrs V, a’i rhyddhau o Ysbyty Penrhos Stanley rhwng mis Tachwedd 2019 a mis Mai 2020. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd oedi cyn rhyddhau Mrs V i gartref nyrsio, a fethwyd â chefnogi Mrs V i herio awdurdodiad Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (“DoLS”), a oedd y Bwrdd Iechyd wedi dibynnu ar Atwrneiaeth Arhosol (“LPA”) iechyd a lles i gyfiawnhau peidio â chyfathrebu â Mrs N a’i brawd, Mr B, a oedd yn briodol rhyddhau Mrs V i gartref nyrsio heb ymgynghori â Mrs N a Mr B na rhoi gwybod iddynt beth oedd ei chyfeiriad newydd, a fethwyd â sicrhau y gallai’r cartref nyrsio fodloni anghenion Mrs V, a p’un a gafodd y trefniadau cyllido iechyd eu terfynu heb adolygiad priodol. Canfu’r Ombwdsmon fod rhesymau da dros yr oedi cyn rhyddhau Mrs V. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu’n rhesymol wrth ddelio â Mr A fel deiliad yr Atwrneiaeth Arhosol mewn perthynas â dewis cartref nyrsio; roedd wedi gwneud yn siŵr y gallai’r cartref nyrsio fodloni anghenion Mrs V, ac adolygodd y lleoliad tua 2 fis yn ddiweddarach. Cafodd y lleoliad ei ariannu drwy gynllun Llywodraeth Cymru i hwyluso rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn ystod pandemig COVID-19, ac roedd y trefniant cyllido hwn wedi parhau. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhannau hyn o’r gŵyn. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon y bu oedi cyn i’r Bwrdd Iechyd wneud cais am awdurdodiadau DoLS brys a safonol, a oedd yn golygu na chafodd Cynrychiolydd y Person Perthnasol ei benodi’n brydlon. Felly, am gyfnod, collodd Mrs V ei chyfle i herio’r awdurdodiad safonol, a oedd yn anghyfiawnder iddi ac arfer ei hawliau dynol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen honno o’r gŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am y diffygion hyn, sicrhau bod staff yn cael eu hatgoffa o’u dyletswyddau cyfreithiol i sicrhau bod ceisiadau DoLS yn cael eu gwneud yn ddi-oed, a chynnal archwiliad o’i geisiadau DoLS a’u cydymffurfiad â rheoliadau a chanllawiau.