Dyddiad yr Adroddiad

06/01/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101144

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr C am ofal a thriniaeth ei wraig Mrs C, a fu farw yn drist iawn ar 16 Hydref 2020. Holodd Mr C a oedd y cymorth i Mrs C a’i theulu, a’r cyfathrebu â nhw, yn briodol yn ystod arhosiad Mrs C fel claf mewnol. Holodd hefyd a oedd yn rhesymol ac yn briodol i’r Bwrdd Iechyd gynnal gastrosgopi (“OGD” – Dwodenosgopi Oesoffago-Gastro) ac a oedd y driniaeth honno wedi cyrraedd safon briodol. Yn olaf, gofynnodd a oedd cynllunio gofal, gan gynnwys trafodaethau ynghylch cytundeb Na cheisier dadebru cardio-anadlol (“DNACPR”) ar gyfer Mrs C, yn rhesymol ac yn briodol.

Canfu’r ymchwiliad y gellid bod wedi gwneud mwy i gynorthwyo Mrs C i gyfathrebu â’i theulu, i gynnig y cyfle iddi gael cymorth gan ei theulu yn ystod sgyrsiau anodd ac i drafod ei dymuniadau DNACPR gyda’i theulu. Hefyd, roedd dogfennau anghyflawn yn golygu nad oedd yn glir pam y dirywiodd Mrs C. Felly, cafodd yr agweddau hyn ar y gŵyn eu cadarnhau. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad ei bod wedi bod yn rhesymol cynnal OGD a bod hyn yn cyrraedd safon briodol, felly ni chafodd yr elfen hon ei chadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd ar argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr C a’r teulu, i gyflwyno dull o gadarnhau bod opsiynau cleifion i gyfathrebu â theulu a ffrindiau wedi cael eu trafod a bod cymorth wedi cael ei gynnig, i atgoffa clinigwyr sy’n trin y dylid cynnig y cyfle i gleifion gael cymorth gan deulu neu ffrindiau yn ystod sgyrsiau anodd ac i ychwanegu awgrym ar y ffurflen berthnasol ar gyfer clinigwyr i gadarnhau eu bod wedi gwirio unrhyw ddymuniadau sydd wedi’u mynegi’n gynharach, pan fydd y claf wedi colli galluedd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gynnal archwiliad o sampl o gofnodion ar ward yr Uned Therapi Dwys (ITU) i gadarnhau a yw arsylwadau’n cael eu cofnodi’n briodol.