Dyddiad yr Adroddiad

06/13/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202201639

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Canfu’r ymchwiliad fod agweddau ar y gofal ar gyfer Mr A mewn perthynas â’i anaf i’w glun, a’r dulliau rheoli, yn rhesymol ac yn briodol. Fodd bynnag, o ystyried bod tystiolaeth o osteoarthritis yng nghlun dde Mr A, dylid bod wedi cael prawf pelydr-x ochrol yn enwedig gan nad oedd y prawf pelydr-x wedi diystyru osteoarthritis datblygedig. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod diffygion yn y dulliau rheoli ar gyfer Mr A wedi golygu mai dim ond pigiad yn ei glun chwith a gafodd, yn hytrach na’r pigiadau a fwriadwyd i’r ddwy glun a’r cymal. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn, o ystyried yr arwyddion a hanes meddygol Mr A, bod atgyfeirio at y tîm poen i reoli symptomau Mr A yn rhesymol ac yn briodol. Fodd bynnag, roedd hi’n feirniadol o benderfyniad y Llawfeddyg i ryddhau Mr A gan fod hyn yn golygu bod Mr A yn teimlo bod angen iddo geisio ail farn am ei symptomau parhaus ac nad oedd yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth lawn am ei ofal a’r dulliau rheoli, a bod hyn yn anghyfiawnder iddo. Roedd yr Ombwdsmon yn falch o nodi bod y Llawfeddyg wedi pwyso a mesur y ffordd y bu iddo reoli gofal Mr A ac wedi nodi diffygion a meysydd i’w gwella ar gyfer ei ymarfer clinigol yn y dyfodol. Yn olaf, canfu’r ymchwiliad nad oedd ymchwiliad y Bwrdd Iechyd a’r ymateb dilynol i’w gŵyn yn ddigon cadarn gan nad oedd wedi nodi’r methiannau yng ngofal Mr A y canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon. Ac ystyried y diffygion a nodwyd, cafodd y rhannau hyn o gŵyn Ms A eu cadarnhau a gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro iddi hi ac i’w thad.