Dyddiad yr Adroddiad

06/20/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202300930

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr U nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb i gŵyn a wnaeth ym mis Hydref 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb o dan y broses Gweithio i Wella ac wedi hynny, wedi methu rhoi gwybod i Mr U sut roedd yn gweithredu ar y gŵyn a sut gallai ef uwchgyfeirio’r mater.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr U yn cadarnhau bod ei gŵyn bellach wedi cael ei chofnodi’n ffurfiol o dan Gweithio i Wella, gydag esboniad ynghylch pam na wnaed hynny ym mis Hydref 2022, i ymddiheuro am fethu ag esbonio sut y gallai uwchgyfeirio ei bryderon, ac i gyflwyno taliad amser a thrafferth o £100.00. Cytunodd hefyd i ddarparu llythyrau diweddaru misol ac i anelu at gyhoeddi ymateb Gweithio i Wella llawn o fewn 3 mis.