Dyddiad yr Adroddiad

05/31/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101144

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr C a’r teulu a chyflwyno dull o gadarnhau bod opsiynau’r cleifion i gyfathrebu gyda’u teulu a’u ffrindiau wedi’u trafod a bod cymorth wedi’i gynnig, atgoffa clinigwyr y dylid cynnig cyfle i gleifion dderbyn cymorth gan eu teulu neu ffrindiau yn ystod sgyrsiau anodd ac i ychwanegu nodyn atgoffa i’r ffurflen berthnasol er mwyn i glinigwyr gadarnhau eu bod wedi gwirio am unrhyw fynegiant cynharach o ddymuniadau, pan fydd y claf wedi colli galluedd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gynnal archwiliad o sampl o gofnodion ar y ward Uned Therapi Dwys (ITU) i gadarnhau bod ei arsylwadau yn cael eu cofnodi’n briodol.