Dyddiad yr Adroddiad

05/05/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202106540

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A ar ran ei mab, Mr B, ynglŷn ag oedi cyn iddo dderbyn sylw meddygol yn Ysbyty Glan Clwyd pan gyflwynodd ei hun yn yr Adran Achosion Brys ar 26 Gorffennaf 2021 gyda phoenau difrifol yn ei abdomen a chwydu.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi afresymol cyn i Mr B dderbyn sylw meddygol pan gyflwynodd ei hun yn yr Adran Achosion Brys. Bu oedi wrth gofrestru Mr B ar y system glinigol a bu oedi hefyd wrth gynnal yr asesiad brysbennu. Er nad yw’n debygol y byddai asesiad brysbennu cynharach wedi rhwystro Mr B rhag cael ataliad y galon, gallai fod wedi golygu y byddai hyn wedi digwydd pan oedd yn yr Adran Achosion Brys, ac y byddai wedi derbyn sylw meddygol priodol, a fyddai wedi peri llai o ofid iddo ef a Mrs A. Felly, cadarnhawyd y gŵyn hon.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ymddiheuro i Mrs A ac i Mr B am y methiannau a nodwyd, ac i wneud taliad o £500 am yr anghyfiawnder a achoswyd gan y methiannau hyn, ac i rannu canfyddiadau’r adroddiad hwn gyda’r staff perthnasol ac adolygu ei brosesau ar gyfer blaenoriaethu asesiadau brysbennu i gleifion sy’n cyflwyno eu hunain yn yr Adran Achosion Brys pan fyddant yn sâl iawn.