Dyddiad yr Adroddiad

04/27/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202108075

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss X gwyno am y driniaeth a’r gofal a roddwyd i’w diweddar fam, Mrs Y, gan y Bwrdd Iechyd ym mis Chwefror 2021. Yn benodol, roedd hi’n pryderu bod oedi wedi bod cyn rhoi triniaeth ar gyfer ffistwla ac roedd yn anghytuno gyda’r penderfyniad DNACPR.

Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.

Er y gallai’r cynllun rheoli cychwynnol ar gyfer y ffistwla fod wedi bod yn gliriach, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd oedi gormodol cyn mynd ati i wneud ymchwiliadau na phenderfynu ar driniaeth. Gallai trafodaeth gyda Mrs Y ar y cychwyn am yr opsiynau o ran y ffistwla a’r driniaeth fod wedi bod o gymorth a rhoi sicrwydd iddi. Fodd bynnag, ni fyddai hyn wedi effeithio ar y rheolaeth gyffredinol na’r canlyniad.

Roedd y penderfyniad DNACPR yn un rhesymol, roedd trafodaeth gyda Mrs Y wedi’i chynnal ac roedd y ffurflen gywir wedi ei chwblhau. Ni chafodd y penderfyniad DNACPR unrhyw effaith ar y driniaeth a roddwyd. Fodd bynnag, nodwyd diffygion ynglŷn â chofnodi’r penderfyniad.