Dyddiad yr Adroddiad

01/04/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202203867

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ystyried a chofnodi ei alergedd i rai meddyginiaethau’n briodol. Cwynodd hefyd am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd â’i gwynion am y mater, gan gynnwys gwrthodiad y Bwrdd i gael cyfarfod wyneb yn wyneb â fo a’r penderfyniad i gyfyngu ei gyswllt â’r Bwrdd.
Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd, ar y cyfan, wedi ymateb yn briodol i bryderon clinigol Mr X ac na ellid cyflawni llawer mwy yn y cyswllt hwn. Fodd bynnag, casglodd yr Ombwdsmon y gallai’r Bwrdd Iechyd roi esboniad pellach ar yr alergeddau a oedd ar gofnod ar gyfer Mr X a sut y penderfynodd y Bwrdd gyfyngu cyswllt Mr Y â nhw. Wrth setlo’r gŵyn cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 20 diwrnod gwaith, i adolygu rhestr alergeddau Mr X a hefyd i roi esboniad pellach iddo ynghylch sut y penderfynodd y Bwrdd gyfyngu ei gyswllt â nhw.
Barnodd yr Ombwdsmon fod hyn yn setlo’r gŵyn yn briodol ac ni chynhaliodd ymchwiliad.