Dyddiad yr Adroddiad

11/16/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202203909

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio’n llawn nac wedi ymateb i’w phryderon am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar chwaer.

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i rai o bryderon Ms A, nad oedd wedi ymchwilio nac ymateb i bryderon sylweddol eraill roedd wedi’u mynegi pan gafodd gopi o gofnodion meddygol ei diweddar chwaer ac adroddiad yr Archwilydd Meddygol.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymchwilio ac i ymateb i’r pryderon hynny o fewn 3 mis.