Cwynodd Mrs A am reolaeth a gofal cardioleg Mr A, ei diweddar ŵr, gan Ysbyty Glan Clwyd a’r ffordd yr ymdriniodd yr ysbyty â’i chwyn. Roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y canlynol:
a) A oedd yn glinigol briodol peidio â gosod Diffibriliwr Cardiaidd Mewnblanadwy (ICD – dyfais drydanol fach a ddefnyddir i drin pobl â rhythmau calon annormal iawn) i’r diweddar Mr A.
b) A ddylai Mr A fod wedi cael canlyniadau ei ecocardiogram a gwybodaeth am risgiau hedfan.
c) A oedd y ffordd yr ymdriniwyd â chwyn Mrs A yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 a’r canllawiau Gweithio i Wella cysylltiedig.
O ran priodoldeb clinigol peidio â gosod ICD i Mr A, dyfarnodd yr ymchwiliad nad oedd cwyn Mrs A wedi ei chadarnhau gan na chafodd y trothwy ar gyfer gosod ICD ei sbarduno pan gafodd Mr A adolygiad cardioleg ym mis Chwefror 2024. Daeth i’r casgliad hefyd, er y dylid rhoi gwybod i gleifion am ganlyniadau ymchwiliadau, bod wastad cyfnod rhwng cwblhau ymchwiliadau ac yna rhoi gwybod i’r claf. O ran hedfan, er dylid trafod y mater os caiff ei godi, nid oes gofyniad arferol i glinigydd drafod risgiau hedfan â chleifion ym mhob achos.
Cadarnhaodd yr ymchwiliad ddiffygion ym mhroses delio â chwynion y Bwrdd Iechyd. Roedd hefyd gwendidau o ran pa mor gadarn oedd ei ymateb i gwynion Mrs A a oedd yn gyfystyr â chamweinyddu ac a achosodd anghyfiawnder. Cafodd y rhan hon o gŵyn Mrs A ei chadarnhau.
Roedd argymhellion yr Ombwdsmon yn cynnwys ymddiheuriad, adolygiad o’r broses delio â chwynion a nodyn atgoffa i ddiwygio llythyrau copi yn unol â newidiadau i lythyrau clinigol.