Dyddiad yr Adroddiad

29/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202507118

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi aflonyddu arno ac wedi trefnu apwyntiadau heb ei ganiatâd.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mr A, nad oedd wedi rhoi ymateb boddhaol ac nad oedd wedi ymateb i gwynion dilynol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y byddai’r Bwrdd Iechyd, o fewn mis i’r llythyr am y penderfyniad:

  • Yn ysgrifennu at Mr A yn ymateb yn fanwl i’w gŵyn gychwynnol a’i holl gwynion dilynol.