Dyddiad yr Adroddiad

07/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202406126

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gŵyn gan Ms B am y gofal a gafodd a’r modd y cafodd ei rheoli gan y tîm cardioleg yn Ysbyty Gwynedd (“yr Ysbyty”) drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) rhwng mis Ionawr a mis Mai 2022. Edrychwyd i weld a oedd yr hyn a wnaed yn glinigol briodol, gan gynnwys:

  • yr oedi wrth adolygu’r monitor Holter (dyfais fechan a wisgir i gofnodi gweithgarwch trydanol yn y galon) ar ôl i Ms B lewygu ym mis Ionawr 2022;
  • y modd ymddangosiadol anghywir y mewnblannwyd y gwifrau i eneradur rheoliadur y galon, a arweiniodd at driniaeth glinigol ychwanegol ar yr un diwrnod ym mis Chwefror 2022.

Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwynion Ms B. Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a’r driniaeth a roddwyd gan dîm Cardioleg yr Ysbyty yn glinigol briodol ac yn rhesymol, er bod meysydd lle gallai’r ymarfer clinigol fod wedi bod yn well, o ran y gofal a’r ddogfennaeth. Canfu’r ymchwiliad hefyd mai dim ond un llawdriniaeth a roddwyd ar y diwrnod dan sylw ac roedd honno’n gysylltiedig â gwifren a oedd wedi symud o’i lle.

Fodd bynnag, gwahoddwyd y Bwrdd Iechyd i ystyried pwyntiau i’w dysgu yn sgil y penderfyniad i bresgripsiynu beta-atalydd (sy’n gweithredu i arafu’r galon ac i atal unrhyw rhythm cyflym annormal yn y galon), ac ystyried y modd yr ymgyflwynodd Ms B yn glinigol a’r ffaith bod curiad ei chalon yn araf.