Dyddiad yr Adroddiad

04/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202505685

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu â’i hatgyfeirio am asesiad llawfeddygol, gan ei gadael mewn poen am fwy o amser nag oedd angen.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn ac ymddiheuro am y camgymeriad, nad oedd yn gallu asesu a oedd y camgymeriad wedi achosi niwed nes i’r asesiad llawfeddygol gael ei gwblhau. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb pellach i Ms C i’w chŵyn o fewn 2 fis ar ôl ei hapwyntiad am asesiad llawfeddygol.