Dyddiad yr Adroddiad

11/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500875

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms A am safon y gofal a ddarparwyd i’w diweddar fam, Mrs B, pan gafodd ei derbyn i Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam. Yn anffodus, bu farw Mrs B gyda’r nos ar y diwrnod y cafodd ei rhyddhau. Yn ystod y cyfnod o 16 awr y buodd Mrs B yn yr ysbyty, ystyriodd yr ymchwiliad y canlynol:

• a oedd ei symptomau o boen yn y stumog, chwydu a dadhydradu wedi’u hasesu’n glinigol a’u trin yn briodol
• a oedd yn ddigon da i gael ei rhyddhau.

Roedd y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod ac ymddiheuro o’r blaen am ddiffygion yn safon y gofal a ddarparwyd i Mrs B, gan gynnwys oedi wrth ddarparu hylifau mewnwythiennol a “gofal coridor” yn yr Adran Achosion Brys. Dim ond y materion a nodir uchod am yr asesiad clinigol a’r penderfyniad i ryddhau Mrs B a ystyriwyd gan yr Ombwdsmon. Ar sail cyngor clinigol, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod yr asesiad clinigol a’r penderfyniad i ryddhau Mrs B yn briodol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.