Cwynodd Ms A nad oedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi mynd i’r afael yn llawn â’i phryderon yn ei ymateb i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ymateb a oedd yn mynd i’r afael yn llawn â phryderon Ms A ynghylch y materion clinigol a gododd, a oedd wedi’i gadael yn ansicr ynghylch ei thriniaeth.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb diwygiedig i’r gŵyn, sy’n mynd i’r afael yn llawn â’r materion clinigol a godwyd yn y lle cyntaf, i Ms A o fewn 1 mis.