Cwynodd Ms A am y ffordd y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drin ei phartner, Mr B, yn dilyn llawdriniaeth i gael ffêr newydd. Yn dilyn llawdriniaeth Mr B, gosododd y Bwrdd Iechyd bwmp Flowtron i atal ceuladau gwaed. Fodd bynnag, roedd y pwmp wedi’i osod ar y goes anghywir, gan achosi poen ofnadwy.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn ddigonol. Ni chafwyd ymddiheuriad sylweddol am brofiad Mr B. Ni ystyriodd yr ymateb yr effaith gorfforol a seicolegol ac ni ystyriodd a oedd y ddyletswydd gofal wedi’i thorri, yn unol â gofynion Gweithio i Wella. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A a darparu ymateb pellach i’r gŵyn o fewn 1 mis.