Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu ag ymchwilio, diagnosio a thrin ei phroblemau clust, trwyn a gwddf. Dywedodd fod ymgynghorwyr preifat wedi argymell triniaeth, gan gynnwys llawdriniaeth, na fyddai’r Bwrdd Iechyd yn ei darparu.
Canfu’r asesiad mai barn y Bwrdd Iechyd oedd nad oedd angen llawdriniaeth yn glinigol ac nad oedd gohebiaeth gan ymgynghorwyr preifat wedi’i rhannu. O ystyried natur y gŵyn, cytunodd Ms A ei bod yn rhesymol ac yn briodol i’r Bwrdd Iechyd gael cyfle i roi sylwadau ar yr ohebiaeth.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ystyried yr ohebiaeth a rhoi sylwadau ynghylch a oedd ymyrraeth yn angenrheidiol yn glinigol yn achos Ms A o fewn 1 mis.