Dyddiad yr Adroddiad

24/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202501986

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’w ddiweddar wraig ar ôl iddi gael ei derbyn yn yr ysbyty hyd at ei throsglwyddiad i hosbis. Cyflwynodd Mr A gŵyn ffurfiol i’r Bwrdd Iechyd ond roedd yn anfodlon â’r ymateb a dderbyniodd. Cwynodd Mr A nad oedd yr ymateb yn rhoi esboniad gwirioneddol o’r prif bethau a godwyd a’r oedi cyn darparu’r ymateb.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb i gŵyn ffurfiol Mr A, nid oedd yn mynd i’r afael yn llawn â’r pryderon a godwyd ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w ddiweddar wraig ac ni ymddiheurodd am yr oedi wrth ddarparu’r ymateb i’r gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am yr oedi wrth gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn ac am beidio mynd i’r afael â’r holl bryderon yn yr ymateb hwnnw, ac i ddarparu ymateb pellach i fynd i’r afael ag ystod lawn y gŵyn o fewn 6 wythnos.