Dyddiad yr Adroddiad

19/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202501796

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Yn dilyn asesiad o’r gŵyn, canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn briodol i sawl agwedd ar y gŵyn, ac nad oedd yn gymesur ystyried ymchwiliad o agweddau penodol lle na ellid cyflawni dim pellach, neu lle nad oedd lefel sylweddol o anghyfiawnder yn gysylltiedig.

Fodd bynnag, roedd pryderon allweddol penodol a godwyd gan Mr B, mewn cysylltiad ag opsiynau canwleiddio a chathetr canolog wedi’i fewnosod yn ymylol (“PICC”), ac oedi wrth ddelio â chanlyniadau biopsi penodol, nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi mynd i’r afael â nhw. Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi copi o ganlyniadau prawf BRCA1 Mrs B i Mr B chwaith (sy’n dangos a oedd mwtaniad yn bresennol sy’n cynyddu’r risg o ganser y fron), hyd yn oed ar ôl ymddiheuro ac addo gwneud hynny yn ei ymateb i’r gŵyn rai misoedd ynghynt. Roedd y methiannau hyn yn anghyfiawnder i Mr B.

Sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb llawn i Mr B i’r pryderon oedd yn dal heb eu datrys ac i ddarparu copi o ganlyniad BRCA1 Mrs B ac ymddiheuriad o fewn 4 wythnos. Felly penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.