Dyddiad yr Adroddiad

08/07/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202502050

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb i’w gŵyn ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei ddiweddar fam.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cyn cyflwyno ymateb, a dywedodd fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro wrth Mr X ac egluro’r rhesymau dros yr oedi, cynnig iawndal o £150 iddo, a chyflwyno ei ymateb i’r gŵyn cyn pen 4 wythnos. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn.