Dyddiad yr Adroddiad

24/07/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202501293

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X gan fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cytuno i ymateb i’w phryderon pellach yn dilyn adroddiad yr ymchwiliad, ond heb ddarparu’r ymateb hwn.

 

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu’r ymateb terfynol hwn i’r achwynydd. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X.  Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, cyn pen 6 wythnos, ddarparu’r ymateb terfynol a fydd yn cynnwys ymddiheuriad am yr oedi ac eglurhad ynglŷn â pham y digwyddodd hyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn.