Dyddiad yr Adroddiad

31/07/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500494

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi darparu gofal a thriniaeth briodol iddo yn dilyn atgyfeiriad gan ei feddyg teulu. Cwynodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn a gyflwynwyd ar ei ran gan ei Aelod lleol o’r Senedd (“yr AS”).

 

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn uniongyrchol i’r gŵyn a gyflwynwyd gan yr AS, ond bod Mr A yn dal yn aneglur ynglŷn â’r cynllun ar gyfer ei ofal a’i driniaeth.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi ymateb uniongyrchol i Mr A, cyn pen 4 wythnos, yn cynnwys diweddariad ar statws yr holl atgyfeiriadau presennol, a rhoi sylw i’r pryderon a godwyd ynglŷn ag ystyriaethau ar gyfer ei ofal a’i driniaeth. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn. O ganlyniad, teimlai’r Ombwdsmon fod y mater wedi’i setlo ar sail y camau y mae’r Bwrdd Iechyd wedi cytuno i’w cymryd ac ni ddechreuodd ymchwiliad.