Dyddiad yr Adroddiad

02/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202400375

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Bwrdd Iechyd. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y gofal a’r driniaeth a gynigiwyd mewn perthynas ag anaf penelin Mrs C, a ddioddefwyd ym mis Chwefror 2023, yn briodol; yn benodol a oedd yn briodol na chanfuwyd y rhwyg cyflawn yn y gewyn plygol cyffredin (penelin) cyn 31 Gorffennaf 2023.

Canfu’r ymchwiliad fod cyfres o oediadau wedi llesteirio taith claf Mrs C ac y gellid bod wedi lleihau ei phoen a’i anghysur yn gynt trwy roi brês ar ei phenelin, pe bai maint ei hanaf wedi’i ddiagnosio’n gynharach. Felly, cadarnhawyd y g?yn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs C a thalu £500 iddi i gydnabod effaith emosiynol ei fethiannau. Argymhellodd hefyd y dylai nifer o staff y Bwrdd Iechyd fyfyrio ar ganfyddiadau’r ymchwiliad a nodi gwersi a ddysgwyd.