Dyddiad yr Adroddiad

14/04/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202407710

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod oedi cyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gynnal ail driniaeth i dynnu polyp wedi golygu ei fod wedi troi’n ganseraidd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon er bod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi dod i’r casgliad nad oedd atebolrwydd cymhwysol, gan fod y gweithdrefnau trin cywir wedi’u dilyn, nid oedd wedi ystyried y ffaith fod hyn gryn dipyn yn hwyrach nag y dylai fod. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ailystyried a oedd atebolrwydd cymhwysol yn achos cwyn Mr A, ac os bydd y Bwrdd Iechyd yn dod i’r casgliad bod atebolrwydd o’r fath, ei fod yn bwrw ymlaen i ystyried y mater o dan ddarpariaethau ariannol Gweithio i Wella. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau hyn o fewn 6 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.