Dyddiad yr Adroddiad

14/04/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202405837

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am yr anghysonderau yng nghanlyniadau gwahanol sganiau arbenigol lle’r oedd tiwmor 8mm yn y pancreas wedi’i ganfod ar y sgan CT cyntaf ond nid ar y sgan MRI dilynol. Roedd Mr A wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r ffordd y cafodd ei reoli, a chytunwyd, fel rhan o setliad, y byddai Mr A yn cwrdd â chlinigwyr perthnasol, cynrychiolydd o dîm llywodraethu’r Bwrdd Iechyd a’r Cyfarwyddwr Clinigol i drafod ei holl bryderon gyda’r nod o’u datrys.