Dyddiad yr Adroddiad

25/04/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202405774

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd cwyn Mr A yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w ddiweddar fam, Mrs B, gan Adrannau’r Glust, y Trwyn a’r Gwddf Ysbytai Maelor Wrecsam a Glan Clwyd, rhwng Awst a Thachwedd 2023. Cyfeiriodd Mr A at fethiannau mewn cyfathrebu, asesiad meddygol, a safon y gofal yn gyffredinol, ac roedd yn anhapus ag ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) i’r gŵyn.

Nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cael cyfle i ymateb i rai o’r pwyntiau penodol a godwyd gan Mr A yn ei gŵyn i’r Ombwdsmon. Fel rhan o ddatrysiad cynnar cytunwyd i ddarparu ymateb ysgrifenedig i Mr A ar y pwyntiau hynny a fyddai’n canolbwyntio ar reolaeth, gofal a diagnosis Mrs B, yn ogystal â chyfathrebu.