Dyddiad yr Adroddiad

30/04/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202403463

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss C am gyfleoedd a allai fod wedi’u colli i wneud diagnosis cynharach o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (“ADHD” – cyflwr sy’n effeithio ar ymddygiad pobl, sy’n eu gwneud yn aflonydd, anhawster canolbwyntio a byrbwylltra) ac a oedd presgripsiwn o feddyginiaeth gwrthseicotig wedi cael ei rheoli’n briodol.

Canfu’r ymchwiliad fod atgyfeiriadau priodol ar gyfer asesiadau ADHD wedi’u gwneud. Ni chadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Miss C. Er bod y presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth gwrthseicotig yn briodol, roedd methiannau yn y cyfathrebu â Miss C gan Nyrs Seiciatrig Gymunedol (“y CPN”) o ran ei thriniaeth. Dylid hefyd fod wedi gofyn am adolygiad o gyflwr Miss C gan seiciatrydd yn gynharach. Mae’r methiannau hyn yn anghyfiawnder i Miss C. Roedd cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd wedi achosi trallod iddi a bydd yr ansicrwydd yn parhau ynglŷn beth fyddai’r canlyniad pe bai hi wedi cael ei hadolygu’n gynharach gan seiciatrydd. Cadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Miss C.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Miss C ac i gynnig taliad o £200 iddi am yr ansicrwydd a’r trallod a achoswyd iddi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i atgoffa’r CPN o bwysigrwydd sicrhau bod cleifion yn deall yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan wasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol a’u hysbysu o’u hawl i gael eu hatgyfeirio at ofal eilaidd.