Dyddiad yr Adroddiad

18/03/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202408535

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth orthopedig a gafodd gan y Bwrdd Iechyd. Cwynodd Mrs A wrth y Bwrdd Iechyd a dywedodd ei bod yn anfodlon â’i ymateb.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb i gŵyn Mrs A, ond nododd nad oedd yn rhoi sylw llawn i’w holl bryderon. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb ysgrifenedig i Mrs A i fynd i’r afael â’r materion y cwynodd amdanynt, ac i ymddiheuro am beidio â rhoi sylw llawn i bob rhan o’i chŵyn yn ei ymateb cychwynnol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r camau hyn cyn pen 11 wythnos.