Dyddiad yr Adroddiad

17/03/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202310310

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr Q am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs R, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn benodol, a oedd y driniaeth a gafodd Mrs R o fis Tachwedd 2021 mewn perthynas â’i phwysedd intraocwlaidd yn y llygad dde (“IOP” – pan fydd y gwasgedd hylif yn y llygad yn uchel) yn briodol, ac a oedd hyn wedi achosi oedi dilynol mewn llawdriniaeth cataractau a gynhaliwyd ym mis Medi 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod y driniaeth a gafodd Mrs R o fis Tachwedd 2021 mewn perthynas ag IOP ei llygad dde yn briodol. Cyn y gallai Mrs R gael llawdriniaeth cataract ar ei llygad dde, roedd yn hanfodol lleihau ei IOP yn gyntaf. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y Bwrdd Iechyd wedi dilyn canllawiau cenedlaethol perthnasol wrth fynd i’r afael â’r mater hwn.

Ar ôl i IOP Mrs R leihau, trefnwyd iddi gael llawdriniaeth cataract. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd modd osgoi’r oedi.
Ni gadarnhawyd cwyn Mrs Q.