Cwynodd Miss A am faint o amser roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi’i gymryd i ymateb i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd dros 12 mis i ymateb i Miss A, ac er ei fod wedi ymddiheuro iddi, nid oedd esboniad wedi’i roi am yr oedi sylweddol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig iawndal i Miss A o £250 ac i roi esboniad iddi am yr oedi, o fewn pythefnos.