Cwynodd Mr C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Bwrdd Iechyd a roddodd gontract allanol i glinig preifat (“y Clinig”) i ddarparu’r gofal. Fe wnaeth yr ymchwiliad ystyried a oedd safon y gofal a ddarparwyd i Mr C, a ddechreuodd ym mis Ionawr 2023, ar gyfer trin ei gataract (pan fydd cwmwl yn datblygu dros lens y llygad) yn briodol yn glinigol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y driniaeth a wnaethpwyd ar 5 Ionawr a’r gofal a’r triniaethau a gafwyd wedyn, yn briodol yn glinigol. Fodd bynnag, ni esboniwyd wrth Mr C am y risg o rwyg yn y capsiwl ôl (“PCR” – toriad/rhwyg yng nghapsiwl y lens ôl) fel cymhlethdod sy’n cael ei gydnabod, yn ystod yr apwyntiad asesu cyn y llawdriniaeth nac ar ddiwrnod y llawdriniaeth. Roedd y methiant hwn yn afresymol ac achosodd anghyfiawnder i Mr C, wrth ystyried ei fod wedi cydsynio i’r llawdriniaeth heb gael yr holl wybodaeth, ac yna cael PCR yn ystod ei lawdriniaeth. Nid oedd y methiant i egluro’r risg hon wedi cael ei gydnabod gan y Bwrdd Iechyd na’r Clinig fel rhan o’r broses o ddelio â chwynion. Felly, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr C am y methiannau a nodwyd; cynnig £1000 iddo am yr anghyfiawnder a achoswyd ac am yr amser a’r drafferth wrth fwrw ymlaen â’r gŵyn, ac adolygu’r dogfennau a roddir i gleifion gan bob clinig preifat lle mae triniaeth offthalmig yn cael ei rhoi ar gontract allanol, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ddigonol am risg, gan gynnwys PCR, yn cael ei darparu a’i thrafod cyn y llawdriniaeth.