Cwynodd Ms B am ofal a thriniaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Calwaladr mewn perthynas â sgrinio a dderbyniwyd cyn cael diagnosis o ganser y fron. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio i’w phryderon cyn iddi allu cyflwyno cwyn ffurfiol.
Dywedodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd yn mynd i’r afael â graddau llawn pryderon Ms B.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd o fewn 4 wythnos, i ymddiheuro i Ms B am unrhyw ddryswch ynghylch y broses gwyno a nodi cwmpas ei chwyn. Yna o fewn 8 wythnos i Ms B gyflwyno ei chwyn, i ymchwilio a darparu ymateb ffurfiol i’r pryderon hyn.