Dyddiad yr Adroddiad

31/01/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202403062

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd wedi gallu cofrestru genedigaeth gynamserol ei phlentyn, oherwydd i’r meddyg gofnodi nad oedd unrhyw arwyddion o fywyd. Roedd hyn yn groes i’w phrofiad ar adeg yr enedigaeth. Cyfeiriwyd y mater at y Crwner a wnaeth y penderfyniad nad oedd unrhyw arwyddion o fywyd ar enedigaeth ac felly ni ellid cofrestru’r enedigaeth. Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn bythefnos ar ôl yr enedigaeth oherwydd oedi cyn i’r meddyg roi datganiad i’r Crwner.

Canfu ymchwiliad y Bwrdd Iechyd ei hun fod diffygion yn y dogfennau a’r cyfathrebu ar y diwrnod ynghylch arwyddion bywyd. Ymddiheurodd i Ms X am hyn a rhannodd yr hyn a ddysgwyd o’r digwyddiadau mewn fforwm clinigol. Roedd Ms X yn parhau’n anhapus â’r ymateb a gwnaeth gŵyn i’r Ombwdsmon.

Nododd yr Ombwdsmon yr oedi o bythefnos rhwng yr enedigaeth a phenderfyniad y Crwner. Roedd hyn oherwydd oedi cyn i’r meddyg dan sylw roi datganiad i’r Crwner. Achosodd yr oedi drallod ychwanegol i Ms X a’i phartner, oherwydd bod y cyfnod o ansicrwydd yn hirach nag y dylai fod ac roeddent wedi bod yn disgwyl cofrestru’r enedigaeth. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y dylai’r Bwrdd Iechyd fod wedi bod yn fwy rhagweithiol wrth gysylltu â’r meddyg a sicrhau bod datganiad amserol yn cael ei roi. Roedd hwn yn ddiffyg a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms X a’i phartner, o fewn 3 wythnos, am yr oedi hwn.