Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu gofal digonol ac amserol i reoli poen niwralgia trigeminol Mr C (cyflwr prin sy’n achosi poen sydyn, difrifol yn ei wyneb) rhwng 18 a 24 Hydref 2022, ac a oedd yn glinigol briodol iddo aros 5 diwrnod ym mis Mawrth 2023 i gael IV Fosphenytoin (meddyginiaeth a ddefnyddir yn bennaf i reoli trawiadau).
Canfu’r ymchwiliad, er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu gofal digonol ac amserol yn ystod derbyniad mis Hydref 2022, o ystyried lefel a hyd poen Mr C, y byddai wedi bod yn briodol ystyried rhoi bloc lignocaine neu ddos uchel o steroidau. Gwnaeth y tîm clinigol ymdrech resymol i gael IV Fosphenytoin ym mis Mawrth 2023 unwaith y canfuwyd yr hepgoriad yn y cais gwreiddiol; fodd bynnag dylid bod wedi ystyried cyffur amgen yn y cyfamser o ystyried lefel poen Mr C. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr C am y methiannau a nodwyd, a thalu dau daliad iawndal ariannol am y methiannau sy’n gysylltiedig â phob derbyniad, sef £1,000. Cytunodd i rannu’r adroddiad gyda’r Adran Niwroleg a fyddai wedyn yn cyfarfod i drafod y canfyddiadau. Sicrhaodd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i roi meddyginiaethau amgen pan nad yw’r meddyginiaethau a amlinellir mewn cynllun gofal ar gael yn rhwydd yn lleol.