Cwynodd Mrs L, ar ôl tynnu melanoma canseraidd ei gŵr yn 2020, a gafodd y gofal dilynol priodol ac a ddylai fod wedi cael rhagor o sganiau yn 2022 pan newidiodd y canllawiau cenedlaethol.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y gofal dilynol a gafodd gŵr Mrs L ar ôl tynnu melanoma canseraidd yn 2020 yn briodol. Yn ogystal, roedd hefyd yn briodol na chafodd ragor o sganiau yn 2022 pan newidiodd y canllawiau cenedlaethol gan nad oedd tystiolaeth glinigol o glefyd melanoma rheolaidd.
Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.