Dyddiad yr Adroddiad

01/03/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202205349

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w mam, Mrs B, pan oedd hi yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Cymunedol Rhuthun rhwng 16 Chwefror a 12 Gorffennaf 2021. Yn benodol, cwynodd Mrs A am oediad annerbyniol cyn cael sampl troeth rhwng 3 Mawrth a 7 Mawrth, a bod ei mam wedi gorfod cael 3 chwrs o wrthfiotigau o ganlyniad i hyn.

Cwynodd Mrs A y dylai Mrs B fod wedi gallu osgoi ei briw pwyso gradd 3 (anaf i’r croen o ganlyniad i bwyso neu gyfuniad o bwyso a chroeswasgu (symud y corff dros arwyneb a thynnu’r croen gan ymestyn a rhwygo’r pibellau gwaed bach), lle 4 yw’r radd fwyaf ddifrifol), a nodwyd ar 25 Mawrth. Cwynodd fod Mrs B wedi cael ei haint clostridium difficile (“C-Difficile” – haint bacteriol sy’n gallu achosi dolur rhydd) yn yr ysbyty oherwydd gofal gwael ac nid oherwydd bod Mrs B wedi cymryd codein fel yr awgrymodd y Bwrdd Iechyd. Cwynodd Mrs A hefyd am ddiffyg cynllunio rhyddhau priodol.
Canfu’r ymchwiliad, er y bu oedi cyn cael sampl troeth, nad oedd hyn wedi gwneud niwed i Mrs B ac ni chadarnhawyd y gŵyn hon. Canfu’r ymchwiliad hefyd y gellid bod wedi osgoi’r briw pwyso gradd 3, nad oedd yr haint C-Difficile wedi digwydd o ganlyniad i gymryd codein ac y bu oediadau wrth gynllunio rhyddhau. Cadarnhawyd y cwynion hyn.

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd. Cytunwyd hefyd y byddent yn rhannu adroddiad yr ymchwiliad â staff perthnasol, yn atgoffa staff o bwysigrwydd cadw cofnodion cywir, yn atgoffa staff o bwysigrwydd cynllunio rhyddhau mewn modd rhagweithiol yn unol â pholisi, ac yn atgoffa staff o bwysigrwydd dilyn y canllawiau briwiau pwyso gan gynnwys asesu, cofnodi ac ymchwilio. Cytunwyd hefyd y byddent yn adolygu eu hyfforddiant staff ynglŷn ag asesu, rheoli, cofnodi ac ymchwilio briwiau pwyso.