Dyddiad yr Adroddiad

01/29/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202105722

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs Y am ofal a thriniaeth ei mam, Mrs A, gan y Bwrdd Iechyd yn ystod derbyniad Mrs A i Ysbyty Maelor Wrecsam rhwng 22 Gorffennaf a 4 Awst 2020. Cwynodd fod y Bwrdd Iechyd wedi trosglwyddo Mrs A i ward ddynodedig COVID 19 i gael triniaeth a’i fod wedi trin diffyg anadl a haint Mrs A yn amhriodol. Cwynodd ymhellach fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi meddyginiaeth anghywir i Mrs A ar 31 Gorffennaf, wedi cymryd camau amhriodol i fynd i’r afael â dolur ar drwyn Mrs A a’i drin, a’i fod wedi tynnu triniaeth feddygol weithredol yn ôl yn amhriodol ar ddiwedd oes Mrs A.

Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu safon resymol o ofal pan na wnaeth drin haint Mrs A yn briodol ac felly cadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn. Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu’n rhesymol pan drosglwyddodd Mrs A i ward ddynodedig COVID-19 i gael triniaeth a phan wnaeth drin diffyg anadl Mrs A. Canfu hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi darparu gofal rhesymol ynghylch y dolur ar drwyn Mrs A ac ar ddiwedd oes Mrs A. Yn olaf, canfu fod presgripsiwn y Bwrdd Iechyd o feddyginiaeth Mrs A ar 31 Gorffennaf yn rhesymol ond nododd fod y dogfennau a oedd yn cofnodi y penderfyniad hwnnw yn is na’r safonau. Felly ni chadarnhawyd yr elfennau hyn o’r gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs Y am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac i fodloni ei hun bod ei Gynllun Gofal Atal/Rheoli Briwiau Pwysau ei hun yn cael ei ddilyn a’i gofnodi’n gywir fel arfer drwy gynnal archwiliad o gleifion a dderbyniwyd gydag achosion. Os canfyddir diffygion, dylai’r Bwrdd Iechyd gymryd camau priodol i sicrhau cydymffurfiaeth â’i Gynllun Gofal ei hun.