Dyddiad yr Adroddiad

09/25/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200804

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gwynion Mrs E ynghylch y gofal a gafodd gan y Bwrdd Iechyd yn ystod ei chyfnod esgor, a’i ymateb i’w chwyn. Canfu’r ymchwiliad y gwnaed ymdrech resymol i alluogi Mrs E i gael ei babi gartref, ond oherwydd methiannau yn y broses cynllunio genedigaeth, roedd hi wedi cael ei throsglwyddo i’r ysbyty yn gynt nag y byddai wedi bod yn angenrheidiol fel arall. I’r graddau cyfyngedig hyn, cadarnhawyd y gŵyn. Canfu’r ymchwiliad bod methiannau wedi bod ar sawl achlysur o ran cymryd camau rhesymol i ddarparu gofal oedd yn cyd-fynd â chynllun genedigaeth Mrs E. Cadarnhawyd y gŵyn hon. Canfu’r ymchwiliad bod cyfres o fethiannau wedi bod o ran rhoi digon o wybodaeth i Mrs E i’w galluogi i roi caniatâd ar sail gwybodaeth mewn perthynas â phenderfyniadau’n ymwneud â’i gofal. Canfu’r ymchwiliad y cynhaliwyd episiotomi ar Mrs E heb gael ei chaniatâd ymlaen llaw. Cadarnhawyd y cwynion hyn. Canfu’r ymchwiliad nad oedd dim methiant wedi bod o ran darparu gofal a fyddai wedi osgoi’r angen am ymyriadau meddygol yn ystod cyfnod esgor Mrs E. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon. Yn olaf, canfu’r ymchwiliad nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn ddigonol, er ei fod yn rhesymol o amserol. Cadarnhawyd y gŵyn hon yn rhannol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i argymhellion yr Ombwdsmon, gan gynnwys ymddiheuro i Mrs E a thalu iawndal o £1500 iddi, a threfnu hyfforddiant ar gyfer bydwragedd ac obstetryddion i atgyfnerthu pwyntiau dysgu ynghylch cefnogi cydsyniad ar sail gwybodaeth a chynllunio genedigaeth effeithiol.