Dyddiad yr Adroddiad

10/09/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202108476

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms C am ofal a thriniaeth ei thad, Mr A, pan gafodd ei gludo i adran achosion brys Ysbyty Treforys (“yr Ysbyty”) ym mis Medi 2020. Roedd hi’n poeni nad oedd y llwybr strôc cywir wedi cael ei ddilyn ac nad oedd sgan CT wedi cael ei gynnal. Roedd hi hefyd yn anfodlon nad oedd yr Ysbyty wedi ymateb i’w phryderon bod lefel ymwybyddiaeth ei thad yn dirywio a’i angen am asesiad brys. Yn olaf, roedd hi’n anfodlon â’r ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’i chŵyn.

Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd yn afresymol i Mr A fod wedi cael diagnosis o UTI posib pan gafodd ei dderbyn i’r ysbyty. Er y dylai pryderon Ms C am ddirywiad ymwybyddiaeth ei thad y diwrnod canlynol fod wedi cael eu huwchgyfeirio gan y nyrs am adolygiad meddygol ar y pryd, ac y gallai hynny fod wedi arwain at adolygu Mr A yn gynt, daeth yr ymchwiliad i’r casgliad nad oedd yr oedi ychwanegol wedi effeithio ar brognosis Mr A. Ni chafodd y rhannau hyn o gŵyn Ms C eu cadarnhau. Canfu’r ymchwiliad y dylai sgan CT o’r pen fod wedi cael ei gynnal pan gafodd ei dderbyn i’r ysbyty gan fod tystiolaeth i amau strôc. Arweiniodd hyn at ansicrwydd i’r teulu ynghylch a allai sgan CT cynharach fod wedi datgelu gwaedu yn yr ymennydd ac felly gallai prognosis Mr A fod wedi bod yn wahanol. Canfu’r ymchwiliad hefyd ddiffygion o ran delio â chwynion, a chadernid yr ymateb i’r gŵyn, a achosodd anghyfiawnder i Ms C gan fod yn rhaid iddi gwyno ymhellach er mwyn cael atebion. Roedd hyn wedi ychwanegu at ei gofid. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon, felly, yr agweddau hyn ar y gŵyn.

Yn ogystal ag ymddiheuro i Mr A a Ms C am y methiannau a nodwyd, gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd hwyluso’r broses o ddysgu o gŵyn Ms C, a oedd yn cynnwys trafod achos Mr A ar ffurf ddienw mewn fforwm clinigol priodol.